GlobalWelsh Connect is live Find out more    | Join Connect
Zara May Zara May Share

Sylfaenydd GlobalWelsh Walter May yn cwblhau taith gerdded 196 milltir gan godi £3,000 i Urdd Gobaith Cymru

31 May, 2023

Mai 31ain; Caerdydd, Cymru: Mae GlobalWelsh heddiw yn cyhoeddi bod ei sylfaenydd, Walter May, wedi cwblhau ei daith uchelgeisiol 196 milltir ar hyd y Camino Portiwgaleg eiconig gan godi dros £3,000 i Bartner Elusennol y Flwyddyn GlobalWelsh, Urdd Gobaith Cymru. Cwblhaodd Walter y daith mewn 16 diwrnod olynol yn unig, gan ddechrau ar 4 Mai yn Porto, Portiwgal, a gorffen yn Santiago de Compostela, Sbaen ar 19 Mai.

“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi torri ein targed codi arian ac yn teimlo’n ostyngedig a balch iawn i fod yn rhoi’r cyfle i un ar hugain o blant Cymru gael gwyliau haf"

Bydd yr arian a godwyd hyd yma nawr yn rhoi cyfle i 21 o blant Cymru fynychu Gwersyll Haf yr Urdd trwy gynllun Cronfa Cyfle i Bawb yr elusen. Mae Cronfa Cyfle i Bawb yn gynllun a sefydlwyd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i fwynhau gwyliau haf, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol ac sy’n cynnig cyllid llawn i fynychu gwersylloedd haf ar gyfer y rhai o gartrefi incwm isel.

Ar y daith ymunodd criw o gyd-Gymry â Walter a oedd yn cynnwys Masgot Urdd Gobaith Cymru, Mistar Urdd, a brofodd yn rhan annatod o’r tîm ac fe wnaeth ei ddrygioni, gan gynnwys ymweld â bwrdd hedfan yr awyren allan i Porto, ei wneud yn seren ar sianeli cymdeithasol GlobalWelsh.

Daliwch i fyny gyda thaith gerdded Walter trwy wylio ein huchafbwyntiau Instagram yma >>

Dywedodd Walter:

“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi torri ein targed codi arian ac yn teimlo’n ostyngedig a balch iawn i fod yn rhoi’r cyfle i un ar hugain o blant Cymru gael gwyliau haf, ac am wyliau gwych fydd hi diolch i waith bendigedig yr Urdd. Diolch i bawb a gyfrannodd, mae’n golygu cymaint.”

“Roedd yn brofiad anhygoel ond roedd hefyd yn heriol iawn. Dyma’r llwybr Camino hiraf i mi ei gerdded, heb egwyl ac roedd yn dir anoddach na llwybrau eraill, gan olygu llawer o bothelli a oedd yn anodd eu rheoli. Ond gyda chymorth triniaethau traed amrywiol a dyfalbarhad fe lwyddon ni i gyrraedd y diwedd yn gymharol ddianaf.”

Gallwch barhau i gyfrannu at #WaltersWalk yma >>

Mae GlobalWelsh nawr yn chwilio am ei Bartner Elusennol ar gyfer 2023-2024 felly os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais anfonwch e-bost at hi@globalwelsh.com erbyn 9 Mehefin 2023.

 

Growing wales' largest community, online. 99 Days 99 Hrs 99 Mins 99 Secs Discover GlobalWelsh Connect